SL(5)120 - Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) Diwygio 2017

Cefndir a Phwrpas

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012 ("y prif Reoliadau").

Mae'r diwygiadau yn-

(a) darparu ar gyfer parhau i orfodi Rheoliad 10/2011 yr UE ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd;

(b) cymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, gydag addasiadau, i'r prif Reoliadau;

(c) gwneud mân ddiwygiadau ynghylch awdurdodau cymwys ac awdurdodau gorfodi.

Y weithdrefn

Negyddol

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Goblygiadau sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o "ddeddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE" o dan gymal 2 o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ("y Bil") fel y'i cyflwynwyd, felly bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu cadw fel cyfraith ddomestig a byddant yn parhau i fod mewn grym yng Nghymru ar ôl y diwrnod gadael.

Mae'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru addasu'r Rheoliadau hyn er mwyn ymdrin â diffygion sy'n deillio o ymadael, yn amodol ar rai cyfyngiadau (er enghraifft, ni fydd Gweinidogion Cymru yn gallu defnyddio'r pŵer hwn i wneud rhywbeth sy'n anghyson ag addasiadau i "ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir" a wnaed gan Weinidogion y DU o dan y Bil).

Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad 10/2011 yr UE; Ar hyn o bryd, mae Rheoliad 10/2011 yr UE yn cael effaith uniongyrchol ar aelod-wladwriaethau'r UE, gan gynnwys Cymru. Ar ôl ymadael, bydd Rheoliad 10/2011 yr UE yn cael ei rewi a bydd yn cael ei gadw fel / ei drawsnewid yn gyfraith ddomestig o'r enw "deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir".

Ni fydd y Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru (neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru) addasu unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir, gan gynnwys Rheoliad 10/2011 yr UE sy'n ymwneud â'r maes bwyd datganoledig. Rhoddir pŵer i addasu holl ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir i Weinidogion y DU; mae hyn yn cynnwys y pŵer i addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir mewn meysydd datganoledig heb yr angen am ganiatâd Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Weinidogion Cymru.

Felly, os bydd Gweinidogion y Deyrnas Unedig yn defnyddio eu pwerau i addasu Rheoliad 10/2011 yr UE fel deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir, bydd pŵer Gweinidogion Cymru i addasu'r Rheoliadau hyn yn gyfyngedig fel na all Gweinidogion Cymru wneud unrhyw beth sy'n anghyson â'r addasiad a wneir gan Weinidogion y DU.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

17 Awst 2017